Ffwng Coedwig Gymunedol y Creunant.
For those of our walkers that are using screen readers, an accessible English and Welsh version of this text follows below:
The Fungi of Crynant Community Forest There are over 2,000 species of wild mushrooms and toadstools in Britain.
Some of them like Field Mushroom, Penny Bun and Lawyer’s Wig are edible and most of them are harmless.
However, many toadstools are poisonous and some of these (e.g. Fibre-caps and Webcaps) can be found in Crynant Forest.
Unless you are very confident in your identification, it is wise not to collect them for eating.
Fungi are important as decomposers and are essential as nature’s recyclers.
They are mostly invisible to us as they live as filaments in the soil and wood.
They produce fruiting bodies which become visible above the ground (or on wood) and are the mushrooms and toadstools familiar to us.
Forests are good places to look for toadstools although it is often difficult to predict which ones will occur in any one year.
Here are some that we have found in Crynant Forest:
If you come across SCARLET ELF CUP, you won’t mistake it for anything else. It is a striking, red cup-fungus that grows on the decomposing twigs of deciduous trees and on moss-covered logs. It appears in Spring when few other toadstools are seen. (Edible) (Sarcoscypha austriaca).
Autumn is the best time to see most fungi like SULPHUR TUFT, one of the most common toadstools in Britain. The name is very appropriate because it has a sulphur yellow cap and grows in tufted groups on dead stumps and logs. Under the cap it has greenish coloured gills. (Poisonous!) (Hypholoma fasciculare)
Scarlet Elf Cup and Sulphur Tuft Fungi are very important wood decomposers and recyclers. The world would fill up with piles of wood if it wasn’t for fungi like them!
Again appropriately named, LAWYER’S WIG or SHAGGY INK CAP – these popped up under the picnic benches at Owl Rock. They have white caps covered with scales and produce a black liquid full of spores. Once the spores are produced or they are picked, the fungus simply dissolves in a few hours. They are edible and actual writing ink can be made from their spores. (Coprinus comatus)
The OCHRE BRITTLEGILL fungus has a particular relationship with the roots of Sitka Spruce trees. It has an ochre-yellow cap, sometimes with greenish or olive tones, and often occurs in very large numbers under the Sitka Spruce here. (Russula ochroleuca)
This is a bit of cheat as it hasn’t been found in the Forest but in the grass in front of St Margaret’s Church in the village. This FLY AGARIC Toadstool is an attractive red with white spots that it is often illustrated in children’s Fairytales. (Toxic!) (Amanita mascaria)
MILKING BONNET is one of the most common fungi that lives on dead leaves. It gets its name from its tendency to bleed a milky fluid when bruised. It can be found in all types of woodland. (Mycena galopus)
There are no prizes for how this ORANGE PEEL fungus got its name. Look for it on open dry ground along the forest roads – this one was found below Owl Rock. (Aleuria aurantia)
BUTTER CAP is a very common forest toadstool and can be seen under the larch between Badger’s Gate and Owl Rock. Usually abundant in autumn. The surface of the cap has a very greasy texture reminiscent of butter, hence its name. (Rhodocollybia butyracea)
PUFFBALLS are great little things. Another name for them is WOLF”S FARTS! They are off white with tiny bumps, going browner as they age. When ripe they puff out little clouds of spores if you give them a prod. Very common here. The spores used to be used to heal burns. (Lycoperdon perlatum)
This huge DRYAD’S SADDLE bracket fungus (10 to 18 inches across) grows on the old Sycamore beneath Badger’s Gate and has appeared each spring to autumn in recent years. It causes a white rot on many deciduous trees. Edible when young and tastes of cucumber/watermelon. (Polyporus squamosus)
——————————————————————————————————————-
Ffwng Coedwig Gymunedol y Creunant Mae mwy na 2,000 o rywogaethau o fadarch gwyllt a chaws llyffant neu fwyd y boda ym Mhrydain.
Mae rhai ohonynt megis Madarch y Maes, y Wicsen Gron a’r Cap Inc Aflêr yn fwytadwy ac ni fydd y rhan fwyaf ohonynt yn gwneud unrhyw niwed i chi.
Fodd bynnag, mae nifer o rywogaethau o gaws llyffant yn wenwynig a gallwch ddod o hyd i rai ohonynt (e.e. Cap Ffibr Marwol a Chap Gweog) yng Nghoedwig Creunant.
Oni bai eich bod yn hyderus iawn yn gallu eu hadnabod, doethach yw peidio â’u casglu i’w bwyta.
Mae ffwng hefyd yn ddadelfenyddion pwysig ac yn hanfodol fel ailgylchwyr natur.
Ar y cyfan dydyn nhw ddim i’w gweld oherwydd eu bod yn byw fel ffilamentau mewn pridd a choed.
Maent yn cynhyrchu ffrwythau sydd i’w gweld uwchben y ddaear (neu ar bren) a dyma’r madarch a’r caws llyffant sy’n gyfarwydd i ni.
Mae coedwigoedd yn llefydd da i chwilio am gaws llyffant, er ei bod yn anodd rhagfynegi pa rai fydd yn ymddangos yn ystod y flwyddyn.
Dyma rai rydym wedi dod o hyd iddynt yng Nghoedwig Creunant:
Os y dewch o hyd i GWPAN ROBIN GOCH, byddwch yn ei adnabod ar unwaith. Mae’n ffwng sy’n edrych fel cwpan coch trawiadol ac yn tyfu ar frigau coed collddail sy’n dadelfennu a hefyd ar foncyffion wedi’u gorchuddio â mwsogl. Mae’n ymddangos yn y gwanwyn pan nad oes rhyw lawer o gaws llyffant arall i’w weld. (Bwytadwy) (Sarcoscypha austriaca)
Fel arfer yr hydref yw’r amser gorau i weld ffwng megis TORTH FELEN, un o’r caws llyffant mwyaf cyffredin ym Mhrydain. Mae’r enw yn addas iawn oherwydd mae ganddo gap lliw melyn ac mae’n tyfu mewn grwpiau cudynnog ar foncyffion sydd wedi marw. O dan y cap mae tagellau lliw gwyrdd. (Gwenwynig!) (Hypholoma fasciculare)
Mae’r Cwpan Robin Goch a’r Dorth Felen yn hynod bwysig er mwyn dadelfennu ac ailgylchu coed. Byddai’r byd yn llanw gyda phentyrrau o bren oni bai am ffwng tebyg i’r rhain!
Unwaith eto wedi’i enwi’n addas iawn, CAP INC AFLÊR – ymddangosodd y rhain o dan y meinciau picnic yng Nghraig y Dylluan. Mae ganddynt gapiau gwyn â chen arnynt sy’n creu hylif du sy’n llawn sborau. Wedi i’r sborau gael eu creu neu wedi iddynt gael eu pigo, mae’r ffwng yn hydoddi o fewn ychydig oriau. Maent yn fwytadwy a gellir gwneud inc ysgrifennu o’r sborau. (Coprinus comatus)
Mae gan y ffwng TEGELL BRAU MELYN berthynas arbennig â gwreiddiau coed Pyrwydd Sitca. Mae ganddo gap brau melyn, weithiau lliw gwyrdd neu olif, ac fe’u gwelir yn tyfu’n niferus iawn o dan y goeden Pyrwydd Sitca hon. (Russula ochroleuca)
Mae ychydig o gafflo fan hyn oherwydd nid yn y Goedwig y daethpwyd o hyd i hwn ond yn y borfa o flaen Eglwys St Marged yn y pentref. Mae’r Caws Llyffant AMANITA’R GWYBED hwn yn lliw coch deniadol gyda smotiau gwyn, ac yn aml i’w gweld wedi’u darlunio mewn llyfrau Tylwyth Teg i blant. (Gwenwynig!) (Amanita mascaria)
Y BONET ODRO yw un o’r ffwng mwyaf cyffredin sy’n byw ar ddail marw. Mae’r enw yn dod o’i duedd i waedu hylif llaethog wedi iddo gael ei gleisio. Mae’n bosib dod o hyd iddo ym mhob math o goetir. (Mycena galopus)
Does yna ddim gwobrau am sut cafodd y ffwng CROEN OREN ei enwi. Chwiliwch amdano ar dir sych agored ar hyd ffyrdd y goedwig – daethpwyd o hyd i hwn islaw Craig y Dylluan. (Aleuria aurantia)
Mae’r CAP MENYN yn gaws llyffant cyffredin iawn mewn coedwigoedd a gellir eu gweld o dan y llarwydd rhwng Gât y Mochyn Daear a Chraig y Dylluan. Fel arfer mae’n nhw ar eu mwyaf niferus yn yr hydref. Mae wyneb y cap i’w deimlo’n seimllyd iawn ac yn debyg i fenyn, ac felly’r enw. (Rhodocollybia butyracea)
CODEN FWG – dyma bethau bach rhyfeddol. Enw arall arnynt yw Coden y Ddaear. Maent bron yn wyn gyda mân smotiau, ac yn troi’n frown gydag oed. Pan yn aeddfed maent yn gollwng cymylau o sborau os wnewch chi eu taro. Cyffredin iawn yma. Arferwyd defnyddio’r sborau i wella llosgiadau. (Lycoperdon perlatum)
Mae’r ffwng CYFRWY CENNOG anferth hwn (10 i 18 modfedd ar draws) yn tyfu ar yr hen Sycamorwydden neu Fasarnen islaw Gât y Mochyn Daear, a thros y blynyddoedd diwethaf wedi ymddangos rhwng y gwanwyn a’r hydref. Mae’n achosi pydredd gwyn ar lawer o goed collddail. Mae’n fwytadwy pan yn ifanc ac yn blasu o giwcymber/melon dŵr. (Polyporus squamosus)